top of page

Hwyl a Sbri: Dance Classes for 2½ - 6 Year Olds in Cardiff

Hwyl a Sbri Logo

At Flame Dance Studios, our dance classes for 2½ - 6 year olds provide the perfect foundation for your child’s dance journey. Our Hwyl a Sbri program offers a unique and exciting introduction to dance. This bilingual program (Welsh and English) is designed to nurture creativity, build coordination, foster important skills such as rhythm, language development, and social skills, and introduce essential dance skills in a fun environment. Whether your child is taking their first steps in a class setting or already loves to move, we offer a variety of classes tailored to meet their needs.

Our Hwyl a Sbri program includes Mini Me, Ballet, Modern Theatre & Tap, and Commercial Hip Hop lessons, giving young dancers a well-rounded introduction to multiple dance styles. These classes not only foster a love for dance but also build confidence, language skills, and independence—preparing children for future learning, both in and out of the studio.

Mini Me Dance Logo - Flame Dance Studios

Meithrin

Gwersi yn ystod y dydd i blant nad ydyn nhw mewn addysg amser llawn eto

Hwyl a Sbri - Ballet

Bale

Dosbarthiadau bale Hwyl a Sbri ar ôl ysgol neu ar y penwythnos

Hwyl a Sbri - Modern Theatre & Tap Classes

Tap & Theatr Modern

Dosbarth Tap a Theatre Modern ôl ysgol neu ar y penwythnos

Hwyl a Sbri - Commercial Hip Hop

Commercial Hip Hop

Dosbarth Hip hop ôl ysgol neu ar y penwythnos

Ready to enroll your child in a free trial class? We'd love to welcome your child to our studio. Explore our timetable below to book a free trial class and find the best fit for your child.
Still have questions? We’re here to help! Use the form below to get in touch with us and we’ll be happy to assist.

Thanks for submitting! We'll be in touch soon.

IMG_0754 2_edited.jpg
IMG_5830.JPG
Hwyl a sbri insta (1).png

Rhaglen ddawns i blant 2½ - 5 oed

Hwyl a Sbri yw enw ein rhaglen ar gyfer dawnswyr 2½ - 5 oed. Dyma gychwyn, a sylfaen eu taith ddawns, gyda'r plant yn trosglwyddo i'n dosbarthiadau eraill ar ôl iddynt droi'n 6.  

Mae'r rhaglen hon yn unigryw gan ei fod yn ddosbarth dwyieithog. Nid oes angen i'ch plentyn allu siarad Cymraeg neu Saesneg, ond bydden yn gwella eu sgiliau iaith tra'n dysgu sut i ddawnsio. Gwneir hyn trwy ddefnyddio cerddoriaeth Gymraeg a Saesneg ynghyd â chyfathrebu ag athrawon.

 

  • Byddwn yn cyflwyno'ch plentyn i fyd dawns mewn amgylchedd hwyliog, chwareus a gofalgar. Byddwn yn feithrin ei diddordeb naturiol am symud trwy gemau ac ymarferion strwythuredig, gan alw ar eu dychymyg a defnyddio propiau.

  • Mae'r dosbarthiadau wedi'u cynllunio'n benodol i gyflwyno sgiliau dawnsio sylfaenol mewn Jazz, Bale, Modern, Hip hop a Tap. Rydym yn ymestyn y tu hwnt i ddawns i ddatblygu cydsymud, sgiliau rhythm, iaith a sgiliau cymdeithasol a cherddorol.

  • Bydd y dosbarthiadau hefyd yn annog annibyniaeth gan fod rhieni yn aros y tu allan i'r ystafell.

IMG_9639.jpg
Hwyl a sbri insta (1).png

Pam dewis ni?

  • Rhaglen wedi'i hysgrifennu gan ein Cyfarwyddwr, Eleri Roberts sydd â Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg ac sydd â Statws Athro Cymwysedig. Mae ganddi 13 mlynedd o brofiad yn dysgu dawns i blant.

  • Athrawon rhagorol y mae plant yn caru, gyda chyfoeth o brofiad yn ddysgu'r oedran yma.

  • Amgylchedd diogel, sydd wedi rheoli gennym ni yn ein stiwdio.

  • Dosbarthiadau dwyieithog i helpu paratoi'ch plentyn ar gyfer ysgol yn y Gymraeg neu trwy gyfrwng Saesneg.

  • Dosbarthiadau bach, personol.

  • Cerddoriaeth sy'n briodol ac mae'r plant yn caru

  • Dim taliadau cudd.

IMG_2516.heic
IMG_1959.heic
Hwyl a sbri insta (1).png

Beth fydd eich plentyn yn dysgu?

  • Mae’r dosbarth wedi’u chreu gyda ffocws ar ddatblygiad sgiliau echddygol a datblygiad symudiadau pob oedran. Bydd eich plentyn yn datblygu'r sgiliau yma wrth gael hwyl, defnyddio dychymyg a chwarae.

  • Byddant yn gweithio tuag at hanfodion dawns fel sgipio, hopio, neidio, gorymdeithio a charlamu.

  • Mae'r plant hefyd yn cael eu cyflwyno i rythmau sylfaenol ac amseru, a fyddant yn datblygu eu sgiliau cerddorol. 

  • Mae'r plant yn dysgu sut i ddilyn cyfarwyddiadau, cymryd eu tro, gwrando, a siarad o flaen eu cyfoedion. Mae'r sgiliau yma yn wych i blant ddysgu cyn cychwyn ysgol.  

  • Mae mynychu dosbarthiadau rheolaidd yn helpu plant i ddatblygu eu hyder wrth iddynt roi cynnig ar bethau newydd, ymarfer a chydgrynhoi sgiliau, a phrofi llwyddiant a meistrolaeth. 

IMG_3323.heic
Hwyl a sbri insta (1).png

Cyfrannu at ddatblygiad plant

Ymhob dosbarth mae athrawon yn archwilio agweddau ar y cwricwlwm trwy ddulliau chwareus sy'n ymatebol i chwilfrydedd a dychymyg dawnswyr ifanc. Mae'r myfyrwyr yn ymateb gydag ymgysylltiad a chyfranogiad gweithredol a llawen sy'n eu galluogi i ymarfer a mireinio'r sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer dawns. Ar yr un pryd mae'r myfyrwyr yn cael eu hymestyn ar draws gwahanol feysydd datblygiadol datblygiad corfforol, gwybyddol, iaith a chymdeithasol ac yn defnyddio prosesau dysgu fel mynychu, cofio a datrys problemau. Trwy gyfranogiad rheolaidd a pharhaus mewn dosbarthiadau mae myfyrwyr yn datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu fel brwdfrydedd, annibyniaeth, canolbwyntio, dyfalbarhad, cydweithredu, hyder, cydsymud a chreadigrwydd.

IMG_3323.heic
How does a bilingual class work - Flame Dance Studios

The lesson will be as accessible to both our English and Welsh speaking students. Our approach has been perfected over 5 years of running lessons to classes mostly weighted 60% English /40% Welsh speaking students. We mostly give direction and instructions bilingually, repeating commands in both languages and give praise and encouragement in either language. Individual conversations with students are held in their most dominant language so that they always feel confident and understood while communicating. 

 

The themed narrative of the lessons will introduce children to new dance steps, words and skills and prolonged practice will help them to master these. 

How does a bilingual class work - Flame Dance Studios

Mae’r gwersi ar gyfer plant pe bai Saesneg neu Cymraeg yw eu hiaith cyntaf. Rydym wedi perffeithio ein dull dysgu yn y ddwy iaith dros 5 mlynedd o redeg gwersi i ddosbarthiadau wedi'u pwysoli'n bennaf 60% o fyfyrwyr Saesneg / 40% Cymraeg. Gan amlaf, rydyn ni'n rhoi cyfeiriad a chyfarwyddiadau yn ddwyieithog, gan ailadrodd gorchmynion yn y ddwy iaith ac yn rhoi canmoliaeth ac anogaeth yn y naill iaith neu'r llall. Cynhelir sgyrsiau unigol â myfyrwyr yn eu hiaith cyntaf fel eu bod yn teimlo'n hyderus a fel bod nhw’n cael eu deall wrth gyfathrebu.

 

Bydd naratif thema'r gwersi yn cyflwyno plant i gamau dawnsio, geiriau a sgiliau newydd a bydd ymarfer hirfaith yn eu helpu i feistroli'r rhain.

Hwyl a Sbri Dance in Cardiff. Dawns i blant 2½ - 5 oed
bottom of page